top of page

Welsh Language: Part 15: "Why is speaking two languages 'easier' for the Welsh?"

suesibrydion

Updated: Feb 23


Ar gyfer hyn – ein Herthygl Gymraeg brintiedig ddiwethaf – dychwelwn at ddwyieithrwydd a pham fod y Cymry mor dda yn ei wneud (ac nid yw’r Saeson yn!) I roi hyn yn ei gyd-destun, es i ysgolion yn Lloegr neu ysgolion milwrol yn Lloegr a dechrau dysgu ail iaith, Ffrangeg yn ôl pob tebyg, pan oeddwn yn un ar ddeg oed, roeddwn yn cael trafferth ag ef, yn ei gasáu ac fe wnes i roi'r gorau iddi cyn gynted ag y gallwn. Ar fy nheithiau o gwmpas y byd, a hyd yn oed yn byw dramor, rwyf bron yn anochel wedi gallu cyfathrebu yn y Saesneg, felly yn gyntaf, wnes i erioed ddysgu ail iaith ac yn ail, dydw i erioed wedi teimlo bod angen i mi wneud hynny. A nawr, dw i'n byw yng Nghymru ac yn teimlo'n annigonol iawn oherwydd fy niffyg sgiliau iaith! 

Felly, beth sy'n gwneud y Cymry'n wahanol i fy mhrofiad fy hun gyda'u gallu, sy’n ymddangos yn ddiymdrech, i newid o un iaith i'r llall. Gofynnom y cwestiwn i Mared Fflur Jones, ein cyfieithydd preswyl ac sy’n athrawes Gymraeg ei hun.


Mae'n amlwg bod pobl o Gymru, sydd yn byw mewn cymunedau dwyieithog, yn gallu dysgu dwy iaith yn haws na phobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae Saesneg yn teyrnasu. Mae nifer o resymau yn esbonio pam mae hyn yn digwydd, gan gynnwys y gwahanol amgylchiadau diwylliannol, addysgol, a chymdeithasol sy'n ymwneud â dwyieithrwydd yng Nghymru.

For this – our last printed Welsh Language Article – we return to bilingualism and why the Welsh are so good at it (and the English aren’t!) To put this into context I went to English or English military schools and started learning a second language, French predictably, when I was eleven years old, I struggled with it, hated it and gave it up as soon as I could. On my travels around the world, and even living abroad, I have almost inevitably been able to communicate in English, so firstly, I never learnt a second language and secondly, I’ve never felt that I needed to. And now I live in Wales and feeling very inadequate for my lack of language skills! 

So, what makes the Welsh different to my own experience with their, seemingly, effortless ability to switch from one language to another. We put the question to Mared Fflur Jones, our resident translator and a Welsh language teacher herself. It is clear that people in Wales, who live in bilingual communities, are able to learn two languages more easily than those living in areas where English is the dominant language. There are several reasons for this, including the different cultural, educational, and social circumstances surrounding bilingualism in Wales.

1. Y Gymraeg yn y gymuned

Un o'r prif resymau pam mae pobl o Gymru yn fwy tebygol i ddysgu dwy iaith yw'r presenoldeb cyson o'r Gymraeg yn y gymuned. Mewn aml i ardal yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn rhan o’r ffordd o fyw bob dydd. Caiff ei siarad mewn ysgolion, yn y gwaith, ac mewn digwyddiadau cymdeithasol. Mae llawer o deuluoedd yn ddenfyddio’r Gymraeg yn naturiol fel y gwyddom, gan ei gwneud hi'n haws i blant i ddysgu'r iaith o dan sylw. Er nad yw’r Gymraeg yn gryf mewn rhai ardaloedd, mae’r cyfleoedd i ymarfer yn gryf mewn ardaloedd fel Gwynedd a Món.

1. The Presence of Welsh in the Community

One of the main reasons why people in Wales are more able to learn two languages is the constant presence of Welsh in the community. In many parts of Wales, Welsh is part of daily life. It is spoken in schools, in work environments, and in social events. Many families speak Welsh naturally, making it easier for children to learn the language from an early age. Although Welsh may be a minority language, it is still widely used in some areas, offering more opportunities for people to practice it.

2. Dwyieithrwydd a'r Addysg

Mae system addysg yng Nghymru yn cynnig y cyfle i ddysgu Cymraeg fel iaith ychwanegol. Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhannu'r iaith a'r diwylliant yn naturiol, gan greu amgylchedd lle mae disgyblion yn cael y cyfleoedd i siarad, darllen, a ysgrifennu yn y Gymraeg. Yn yr un modd, mae ysgolion cyfrwng Saesneg hefyd yn cynnig Cymraeg fel pwnc gorfodol, ac felly mae'n fwy cyffredin i blant o Gymru cael addysg mewn dwy iaith boed y disgyblion hynny yn mynychu ysgol Gymraeg a’u peidio. Erbyn iddynt gyrraedd diwedd ysgol uwchradd, mae llawer o bobl o Gymru yn gyfarwydd â'r ddwy iaith a’u cyfuno'n effeithiol.

2. Bilingualism in Education

The education system in Wales offers the opportunity to learn Welsh as an additional language. Welsh-medium schools naturally promote the language and culture, creating an environment where students can speak, read, and write in Welsh. Similarly, English-medium schools also offer Welsh as a compulsory subject, meaning it is more common for children in Wales to receive education in both languages. By the time they reach adulthood, many people in Wales are familiar with both languages and can use them effectively.

3. Yfory a’r traddodiad dwyieithog

Mae ein diwylliant yma yng Nghymru yn cefnogi dwyieithrwydd. Mae ein cerddoriaeth, llenyddiaeth, a chelfyddydau Cymru yn aml yn ymwneud â’r Gymraeg a’r Saesneg. O bosib fod y cysylltiad hwn rhwng y ddwy iaith yn gwneud i bobl Cymru teimlo'n fwy cyfforddus â’r syniad o ddwyieithrwydd, ac yn eu hannog i ddysgu a meithrin sgiliau dwyieithog. Mae’r arferion o wrando ar gân Gymraeg, darllen llyfrau Cymraeg, neu fwynhau rhaglenni teledu Cymraeg yn dod yn arferion dyddiol i lawer, gan gadw’r iaith yn fyw.

3. A Legacy of Bilingualism

Welsh culture also supports bilingualism. Music, literature, and the arts in Wales often involve both Welsh and English. This connection between the two languages makes people in Wales more comfortable with the idea of bilingualism, encouraging them to learn and cultivate bilingual skills. Practices like listening to Welsh music, reading Welsh books, or enjoying Welsh tv shows become everyday habits for many, helping to keep the language alive.

4. Gwerthfawrogiad am amrywiaeth a chymorth gan y gymuned

Yn gymdeithasol, mae Cymry yn gweld dwyieithrwydd yn fanteisiol, gan ei ystyried fel traddodiad pwysig a rhan o’u hunaniaeth. Mae’n rhan annatod o pwy ydyn ni. Mae llawer o deuluoedd yn annog eu plant i ddysgu'r Gymraeg gan ystyried y gwerth a’r defnydd o’r iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ac yn y gwaith.

4. Appreciation of Diversity and Community Support

Socially, people in Wales view bilingualism as an advantage, considering it an important tradition and part of their identity. Many families encourage their children to learn Welsh because of the value and use of the language in social settings and in the workplace. 

5. Gweithgareddau diwylliannol a’r iaith

Yn ogystal, mae Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd diwylliannol sy'n cefnogi dwyieithrwydd. Mae digwyddiadau, cystadlaethau, a gweithgareddau sy'n ymwneud â'r iaith yn digwydd yn aml. Mae'r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, drama, a ffilm, yn chwarae rhan enfawr wrth hybu’r Gymraeg ymysg y boblogaeth. Mae’r cyfleoedd hyn yn gwneud i bobl teimlo’n fwy cysylltiedig â’r iaith, ac mae’n creu cyswllt rhwng dysgu ac ymarfer.

5. Cultural Activities and the Language

In addition, Wales offers many cultural opportunities that support bilingualism. Events, competitions, and activities related to the language are common. The arts, including music, drama, and film, play a significant role in promoting Welsh among the population. These opportunities make people feel more connected to the language, creating a link between learning and practice.






Comments


bottom of page